GWISG YSGOL
Yn ysgol Iolo Morganwg, rydym yn falch iawn o’n gwisg ysgol ac yn arbennig o’n logo unigryw. Mae gwisg ysgol yn cyfrannu tuag at yr ymdeimlad o berthyn ac yn sicrhau meddylfryd cadarnhaol a safonau uchel o ran ymddygiad ac ymglymiad. Mae gwisg ysgol hefyd yn sicrhau nad oes gwahaniaethu rhwng disgyblion a phwysau i wisgo dillad penodol neu i ddilyn ffasiwn arbennig.
Dyma restr o wisg yr ysgol: -
- crys chwys/cardigan - glas tywyll gyda logo’r ysgol
- crys 'polo' - glas golau gyda logo’r ysgol
- sgert/ pinaffor/ trowsus/trowsus byr - glas tywyll a ffrog haf- glas golau
- esgidiau du/glas tywyll
- teits/sanau glas tywyll
Ni chaniateir gwisgo gemwaith ac nid anogir gwisgo clustdlysau. Rhaid tynnu neu orchuddio clustdlysau (stỳds) gyda phlastr/tap cyn dod i’r ysgol ar ddiwrnod ymarfer corff.
Ar gyfer gwersi ymarfer corff gofynnwn yn garedig i’r plant wisgo siorts du neu las tywyll a chrys t lliw eu llys. Yn y tywydd oer gall y plant wisgo crys chwys neu dracwisg du neu las. Gellir prynu gwisg ysgol o siop y ‘Pencil Case’ yn y Bontfaen neu ‘LM Sports’ yn Llanilltud Fawr.
Fel bwrdd llywodraethol, deallwn fod costau gwisg ac esgidiau ysgol yn gallu bod yn heriol i rieni a gall fod yn anodd sicrhau bod gan blant wisg ysgol swyddogol ar bob achlysur. Yn hyn o beth, cynghorwn rieni i flaenoriaethu gwisg ysgol swyddogol ar gyfer achlysuron lle mae’r disgybl yn cynrychioli’r ysgol e.e lluniau ysgol, trip ysgol, eisteddfod, cyngerdd neu wasanaeth. Fel arall, fe fydd dillad plaen heb logo yn dderbyniol, gan gofio bod angen iddynt fod yr un lliw a gwedd. Deallwn fod y rhain ar gael mewn archfarchnadoedd adnabyddus am bris llawer rhatach.
Yn ogystal, fe fydd ein CRAFF yn ymdrechu i drefnu cyfleoedd cyfnewid gwisg ysgol ail-law yn gyson, er mwyn mynd sicrhau cyflenwad rhad o wisg ysgol ar hyd y flwyddyn a lleihau gwastraff.
DYLID SICRHAU BOD ENW'R DISGYBL AR BOB DILLEDYN, OS GWELWCH YN DDA
SCHOOL UNIFORM
We have a school uniform, and we kindly request you to support our standards: ‑
- Sweat shirt/cardigan - dark blue
- Polo shirt- pale blue
- Skirt/ pinafore dress/ trousers/ shorts – navy and Summer dress - blue check (if desired)
- Shoes (trainers to be kept in PE bag)
- Navy socks or tights
Jewellery is not allowed and earrings are not encouraged. Studs must be removed or covered with a plaster / tape before coming to school on PE day.
For PE lessons we kindly ask that the pupils wear navy or black shorts and their house colour t-shirt. In cold weather they may wear a blue or black hoodie/jumper and jogging bottoms/leggings. School uniform may be purchased from ‘The Pencil Case’ in Cowbridge or from LM Sports in Llantwit Major.
As a governing body, we understand that the cost of school uniform and shoes can be challenging for parents and it can be difficult to ensure that children have official school uniform on all occasions. In this respect, we would advise parents to prioritise the use of official school uniform on occasions where the pupil represents the school e.g. photos school, school trip, eisteddfod, concert or service. Otherwise, plain clothes without a logo will be acceptable, bearing in mind that they need to be the same color and appearance. We understand that these are available in well-known supermarkets at a lower cost.
In addition, our CRAFF will endeavor to regularly organize opportunities to exchange second-hand school uniforms, in order to ensure a cheap supply of school uniforms throughout the year and reduce waste.
PLEASE ENSURE THAT EVERY GARMENT IS CLEARLY LABELLED WITH YOUR CHILD’S NAME