Ysgol Iolo Morganwg

Croeso i barth yr Ysgol /

Welcome to the School Zone


Gair o Groeso gan y Pennaeth

Croeso i dudalennau gwefan Ysgol Iolo Morganwg.  Estynnir croeso i chi fel rhieni i ymuno yn holl wethgareddau'r Ysgol, ac rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hapus, llwyddiannus a ffrwythlon yn ystod addysg gynradd eich plentyn.

Dymunwn, fel ysgol, greu awyrgylch lle gall ein disgyblion ddatblygu'n addysgiadol, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn ysbrydol a chorfforol hyd eu heithaf.  I'r diben hwn ceisiwn ysbrydoli'r plant trwy seilio eu haddysg ar iaith, crefydd, diwylliant a threftadaeth Cymru, a chreu ymwybyddiaeth gref o Gymreictod ac ennyn balchder yn ein hiaith yng nghalon pob plentyn.

Saif yr ysgol ar gyrion dre'r Bont-Faen, ond mae'n gwasanaethu'r Fro wledig i gyd.  Daw ein disgyblion o ardal sy'n ymestyn o Benybont-ar-Ogwr yn y gorllewin hyd at gyrion Caerdydd a'r Barri yn y dwyrain.  Mae'n cynnwys trefi hynafol Llanilltud Fawr a'r Bont-Faen, treflannau megis Sain Tathan a'r Rhws, a'r llu o bentrefi ac anheddau sydd ar wasgar ar hyd Bro Morgannwg.

Agorwyd yr ysgol ym 1979, ar ôl cyfnod fel uned yn yr ysgol cyfrwng-Saesneg leol.  Dros y blynyddoedd, bu'r ysgol yn tyfu'n dawel wrth i fwy a mwy o rieni weld gwerth addysg Gymraeg. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y rhieni di-Gymraeg sy'n anfon eu plant i'r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.

Ein braint yw gallu elwa o'r gymuned cyfrwng-Saesneg a chyfrwng Cymraeg.  Mae hyn yn allweddol wrth i ni roi'r cychwyn gorau posib i fywyd addysgiadol a chymdeithasol y plant sydd yn ein gofal.

Mr Dylan Evans

A Word of Welcome from the Head Teacher

Welcome to Ysgol Iolo Morganwg's web pages.  You are invited as parents to participate in all the School's activities, and we look forward to a happy, successful and fruitful partnership during your child's primary education.

As a school, we wish to create an environment where our pupils can develop educationally, culturally, socially, spiritually and physically to the best of their ability.  To this end we endeavour to inspire the children by basing their education on the language, religion, culture and heritage of Wales and create a strong awareness of Welshness and encourage each child to take pride in our language.

The school is located on the outskirts of the market town of Cowbridge but it serves the entire rural Vale.  Our pupils come from an area extending from Bridgend in the west to the outskirts of Cardiff and Barry in the east.  It includes the ancient towns of Llantwit Major and Cowbridge, large villages such as St Athan and Rhoose, and a whole host of small villages and settlements which are scattered throughout the Vale of Glamorgan.

The school was opened in 1979, following a period as a unit in the local English-medium school.  Over the years, the school has gradually grown as more and more parents have seen the value of Welsh-medium education. A substantial increase was seen in the number of non-Welsh speaking parents who send their children to the school as they saw the benefits of bilingualism.

We are privileged to be able to benefit from both the English-speaking and Welsh-speaking community.  This is crucial as we give the children in our care the best possible start to their educational and social lives.

Mr. Dylan Evans


  

  

Nôd ac Amcanion Ysgol Iolo Morganwg

 

Awyr Agored

 

 

 

"Hwyl iddynt oll wrth lwyddo"

 

Nôd yr Ysgol

 

Dymunwn, fel ysgol, greu awyrgylch lle gall ein disgyblion ddatblygu'n addysgiadol, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn ysbrydol a chorfforol hyd eu heithaf.  I'r diben hwn ceisiwn ysbrydoli'r plant trwy s

eilio eu haddysg ar iaith, crefydd, diwylliant a threftadaeth Cymru, a chreu ymwybyddiaeth gref o Gymreictod ac ennyn balchder yn ein hiaith yng nghalon pob plentyn.

 

Amcanion Ysgol Iolo Morganwg

 

1. Creu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o:

  • iaith
  • grefydd
  • ddiwylliant
  • amgylchedd

2. Sicrhau gofal a datblygiad pob plentyn yn:

 

  • feddyliol
  • gymdeithasol
  • emosiynol
  • foesol
  • gorfforol

3. Meithrin cysylltiad agos rhwng yr ysgol a'r:

 

  • Cartref
  • Gymuned
  • Gwasanaethau cynnal (Y Swyddfa Addysg, Y Llywodraethwyr, Ymgynghorwyr)

4. Cydweithio effeithiol rhwng y:

 

  • Pennaeth a'r staff
  • Staff a rhieni
  • Llywodraethwyr a'r staff