ICT Mark Accredited

PE Active Mark

                 

Croeso i ddosbarth Miss Jones,Miss Blackmore, Mrs Roberts, Mrs Hughes a Miss Ringwood

   Dosbarth bywiog o 27 o blant  sydd yn y derbyn eleni ac rydym wrth ein bodd yn dysgu trwy wneud gweithgareddau gweithredol; yn arbrofi a darganfod. 

   Mae Miss Jones, Miss Blackmore a Mrs Roberts yn ein dysgu trwy'r dydd ac rydym yn ffodus i gael cwmni Mrs Hughes yn y bore a Miss Ringwood bob prynhawn.

Mae gennym nifer o ardaloedd dysgu yn y dosbarth gan gynnwys y gornel chwarae rol, cornel iaith a mathemateg, cornel creadigol, byd bach, bar llaeth a'r holl ardaloedd sydd tu allan.  Rydym yn defnyddio'r ystafell ddosbarth tu allan ymhob tywydd ac mae genym ddillad gwlyb ac esgidiau glaw yn barod ar gyfer y glaw. 

   Ein thema y tymor yma yw Myfi ac fe fyddwn yn trafod ein teulu, pethau sydd yn gwneud i ni deimlo'n hapus, ein cyrff, ein synhwyrau a llawer mwy

   Tymor prysur sydd o'n blaenau

Hafan Trydar y Dosbarth Derbyn/Dosbarth Derbyn Twitter Space

 

Heplu Eich Plentyn/Helping Your child

Themau Gwanwyn 2012

Themes Spring Term 2012