ICT Mark Accredited

PE Active Mark

                       

Croeso i Flwyddyn 5.

Pedwar ar bymtheg ohonom sydd eleni ac rydym yn griw hapus, bywiog, gweithgar ac, yn ôl Mrs Farleigh ein hathrawes, hynod siaradus! Ar brydiau beth bynnag! Wel a ninnau gyda gymaint o bethau i'w trafod ac ar frys mawr i'w trafod, wel does ryfedd ein bod wrthi byth a beunydd.

Ein hoff bynciau yw Addysg Gorfforol, Celf a Llythrenedd. Mae Mathemateg yn apelio'n fawr hefyd yn enwedig pan gawn gyfle i chwarae ‘bingo tablau’, ‘rowlio’r dis’ a ‘mynd am dro’ cyn mynd ati i ddatrys yr holl broblemau rhif y mae Mrs Farleigh mor hoff o’u rhoi i ni. Rydym hefyd yn griw sydd wrth ein bodd yn archwilio i ryfeddodau gwyddoniaeth ac rydym wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn ymchwilio i anifeiliaid a'u cynefinoedd. Y Fforestydd Glaw yw ein thema am hanner cyntaf y flwyddyn ond byddwn hefyd yn edrych ar Kenyaafydd yn hynod  ddiddorol a chyffrous yn enwedig a  ninnau  gyda chysylltiad ag ysgol allan yno sef Ysgol Endonisidai sy'n y Masai Mara! Mae athrawon o'r ysgol yn mynd yno hefyd eleni felly bydd gwybodaeth di-ri ar gael. Rydym wedi creu llyfryn i'w ddanfon yno yn cyflwyno'n  hunain ac mi fydd llythyrau'n mynd allan hefyd. Awn i'r  Gofod yn ystod yr ail hanner. Ar pa blaned fyddwn yn glanio a pha mor bwerus fydd ein rocedi? Amser a ddengys! Byddwn wedi datblygu ein sgiliau meddwl i'r eithaf!

Cymraeg yw iaith ein dosbarth a'n  hysgol, ac er i ni siarad ein mamiaith fel melinau pupur, och mae ei hysgrifennu yn stori wahanol. Byddwn wrthi'n datblygu'n sgiliau drwy Big Writing dros y misoedd nesaf. Cofiwch chi fe wnawn ein gwaith yn frwdfrydig a llon ond braf yw cael munudau dedwydd o dawelwch a llonyddwch pan mae pawb wrthi’n darllen. Hoff gyfnod Mrs Farleigh hefyd ni’n siŵr!

Galwch heibio’n dosbarth prysur a lliwgar – cewch groeso cynnes acw bob tro.

 

 

Welcome to Year 5.


There are nineteen of us this year and we’re a very lively, hard working and, if you ask Mrs Farleigh our teacher, extremely talkative crowd. Sometimes anyway. Well with so many things to discuss and so little time, it's hardly surprising that we grab every opportunity to convey our opinions and say our say!

Our favourite subjects are Physical Education, Art and Literacy. Maths appeals too especially when we play ‘tables bingo’, ‘roll the dice’ and ‘going for a walk’ before settling down to solve all the numeracy problems Mrs Farleigh is so fond of giving us. We also enjoy investigating the wonders of science and at present we’re all busy finding out about animals, habitats and food chains! Our theme for the first half of the year is the Rainforest but we'll also be looking at Kenya and the Maasai which will be very exciting and extremely interesting since we are in touch with a school on the Masai Mara plains - Ysgol Endonisidai.  We have recently created a scrap book of informatioin about ourselves to send out there with our teacher who are visiting this year and later we'll be sending various letters and so forth. We head for Space during the second half - who knows on which planet we'll end up after experimenting with rocket boosters! Our thinking skills will be really stretched too!


Welsh is our main language in class and school, and although we speak our native tongue proudly and non-stop, writing it is a different matter. We need to practice and extend our skills through Big Writing. Mind you we do all our work enthusiastically and happily but it’s so good to be able to enjoy a few minutes of still silence when everybody is reading quietly. Mrs Farleigh’s best time of day too we suspect.

Why don’t you come and visit our busy colourful class – you’re guaranteed a warm welcome every time!

Hafan Trydar Blwyddyn 5/ Year 5 Twitter Space

 

 Ffilm gan grwp o fechgyn blwyddyn 5/A Film by a group of boys in Year 5

 

Y Ffilm Newydd gan blant blwyddyn 5 -   Ionawr 2012

 

 

 

 

 


Helpu Eich Plentyn/Helping Your Child

Themau Tymor y Gwanwyn 2012/ Spring 2012 Themes